| Adroddiad ar y digwyddiad ar 1 Mawrth 2008
Ar 1 Mawrth trefnodd Llafur digwyddiad yng Nghaerdydd i ystyried
syniadau cynnar CyMAL ar y cynnig yn nogfen Llywodraeth Cynulliad
Cymru, Cymru'n Un, i 'sefydlu Casgliad o Hanes Pobol Cymru, wedi'i
gefnogi gan staff curadurol parhaol a fydd yn gyfrifol am hyrwyddo
a datblygu'r casgliad'. Cyflwynodd Linda Tomos, Pennaeth CyMAL,
cynnig i'w ystyried gan aelodau Llafur.
Esboniodd Linda eu bont yn edrych i greu gasgliad parhaol y byddai'n
adlewyrchu amrywiaeth Cymru trwy stori pobol arferol. Byddai'r deunydd
dechreuol o bosib yn cynnwys hanesion cymunedau lleol, rhan menywod,
chwaraeon, a profiadau a chyfraniadau mewnfudwyr ac allfudwyr. Bydd
TG yn cael i'w ddefnyddio i'r eithaf er mwyn datblygu mynediad i'r
casgliad ar-lein, gan gynnwys o bosib drwy safleoedd rhwydweithio
cymdeithasol, blogs, flicr a drwy 'second life'. Bydd yn rhyngweithiol
ac yn fwriadol yn chwilio i apelio at pobol ifanc. Bydd y prosiect
yn edrych i fanteisio ar yr hen a'r newydd, naill a'i drwy casgliadau
hanes lafar sydd mewn bodolaeth yn barod neu drwy'r hanesion digidol
sydd wrthi'n cael i'w greu. Gwelodd hi fod potensial democrateiddio
yn y dull yma.
Roedd y trafodaeth yn eang iawn, pa un ai ar bwysigrwydd digwyddiad
o fewn hanes, y berthynas potensial rhwng y menter yma a digwyddiadau
o fewn adfywio cymunedol ac economaidd, neu cysylltiadau i'r sector
treftadaeth. Rhoddwyd sylw hefyd i sut y gellir ymestyn diddordeb
cyfredol mewn hanes teulu at materion hanesyddol ehangach, y bosibilrwydd
o ddefnyddio 'iechyd' fel thema, os dylai ehangu chwaraeon i gynnwys
diwylliant neu hamdden hefyd, a ddefnydd ieithoedd. Cafwyd trafodaeth
hir ar sut y ddylwyd ystyried menywod, o bosib trwy gwaith, fel
rhan o'r agenda cydraddoldeb ehangach lle y gellir cynnwys gogwydd
rhywiol hefyd, neu fel rhan o bersbectif fwy ar rhyw. Rhoddwyd sylw
hefyd i maes eang y fenter, y reidrwydd o fynegeio'r adnodd fel
ei bod yn chwiliadwy, ac (ymhlith nifer eraill) hawlfraint a caniatâd.
Nid oedd gan rheini a oedd yn bresennol unrhyw cwyn ynglyn a'r cysyniad
fel ei amlinellwyd. Awgrymwyd nifer helaeth o adnoddau, cydweithwyr
a chyfryngau bosib. Cafwyd awgrymiadau ynglyn a cangau gwaith /
themau a sut y gellir roi strwythur i'r methodoleg cysylltiedig.
Cymeradwywyd y thema o fewnfudo ac allfudo.
Angela John, Is-Lywydd Llafur, agorodd y diwrnod, a nododd fod
y byd yn newid yn gymuned trwy ddefnydd o'r we-fyd-eang, a dylswn
ystyried y gynulleidfa yma tra'n adeiladu platfform.
Mae CyMAL yn edrych i ddatblygu partneriaethau cynaliadwy gydag
ystod eang o chyrff a sefydliadau, a gobeithiwyd y bydd Llafur yn
cymryd rhan. Nodwyd hefyd fod cymdeithasau hanes lleol ac Archif
Menywod Cymru yn cyfranwyr pwysig.
Dyler rhoi diolch arbennig i Elin Jones am gadeirio y sesiwn boreuol
mewn ffordd mor ysbrydoliedig fel cafwyd y budd, a phleser, eithaf,
ac i'r 35 a gymerodd rhan.
Robert Owen a'r Mudiad Cydweithredol yng Nghymru
Amgueddfa Pontypridd,
6 Medi 2008
Mae Llafur yn trefnu ysgol unddydd i nodi 150 mlynedd ers marwolaeth Robert Owen o'r Drenewydd, 'tad y Mudiad Cydweithredol'. Bydd yr ysgol unddydd yn dechrau am 11yb ar Ddydd Sadwrn 6 Medi, ac yn cael i'w chynnal ym Amgueddfa Pontypridd. Bydd y siaradwyr yn cynnwys Brian Davies, Alun Burge, Roger Davies, Mervyn Wilson a Chris Williams.
Sport, Gender and Society in Wales
Stadiwm SWALEC, Caerdydd, Sadwrn 1 Tachwedd 2008
Bydd CCB Llafur yn cael i'w chynnal ar Ddydd Sadwrn 1 Tachwedd fel ran o ysgol unddydd ar Hanes Chwaraeon Cymru. Bydd yr ysgol unddydd yn cael i'w chynnal yn Stadiwm SWALEC, Gerddi Sophia, Caerdydd. Bydd y siaradwyr yn cynnwys
Martin Johnes, Laura McAllister, Andrew Hignell, Daniel Williams a Carolyn Hitt.
Ail-ymweld a Siartiaeth yng Nghymru
Dydd Sadwrn16 May 2009 yn Canolfan Gymunedol Llanidloes

Anrhydeddu Ursula Masson
I anrhydeddu bywyd a gwaith Ursula, mae Archif Menwod Cymru a Llafur yn cynnal ysgol undudd ar y cyd yn Prifysgol Abertawe ar Fedi 12fed.
Bydd cyfraniadau gan gyfeillion a chydweithyr Ursula yn ei hamryfal feysydd, yn ogystal a chyfle unigryw i weld tair ffilm a wnaeth Ursula a Grwp Hanes Menywod Abertawe: Back of the Front Line; Smiling and Splendid Women; a Swansea Conchie Controversy.
'Cerrig Filltir yn Nemocratiaeth Cymreig’: o Siartiaeth i’r Cynulliad Cenedlaethol.
Bydd yr Ysgol Ddydd yn cyd-fynd a 170 mlynedd ers Cyfodiad De Cymru ym 1839, ac hefyd y ffaith fod menywod, yn 1929, wedi gallu pleidleisio am y tro cyntaf, ynghyd a 10 mlynedd o Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Bydd y digwyddiad yn cael i’w chynnal yn y Senedd, Bae Caerdydd ar Ddydd Sul 8 Tachwedd.
|