Cymdeithas Hanes Pobl Cymru

Croeso i Lafur: Cymdeithas Hanes Pobl Cymreig.

Daw Llafur â phobl o bob rhan o fywyd sydd â diddordebau tebyg yn hanes y Cymry at ei gilydd. Trefnwn ystod eang o ddigwyddiadau sydd yn edrych ar agweddau o'n hanes a chyhoeddwn gyfnodolyn o'r enw Llafur.

Cred Llafur nad ond ein hysbysu o'r gorffennol a wna hanes, ond gall hefyd oleuo ein dealltwriaeth o'r presennol, a helpu llunio ein dyfodol. Dyna'r rheswm paham bod nifer o ddigwyddiadau Llafur yn ystyried materion, er eu bont wedi eu gwreiddio yn y gorffennol, yn berthnasol i'n bywydau heddiw.

Cyhoedda ein cyfnodolyn erthyglau ar bob agwedd o hanes y Cymry. Ymfalchïwn yn ein cofnod o hanes llafur modern ac o gyhoeddi prif gyfnodolyn Cymru am waith hanes menywod. Er hynny, rydym bob amser yn awyddus i ehangu ein gorwelion a mentro i gyfnodau newydd ac ymdriniaethau newydd.

Sefydlwyd Llafur ym 1970, ac efallai mai arwydd o'n haeddfedrwydd (a hefyd o'r cyfraniad rydym wedi gwneud, ac yn parhau i'w wneud) yw'r ffaith fod pobl yn ymgymryd ag astudiaethau hanesyddol gyda ni!

Ynghyd â pharhau i ymgeisio dwyn newid trwy ein dealltwriaeth o hanes, mae'n le i fwynhau ac i rannu, ynghyd ag i ddysgu.

Estynnwn wahoddiad i chi ymuno â ni, i ddarllen ein cyfnodolyn a dod i'n digwyddiadau.

Yr Ysgol Ddydd Llafur nesaf bydd:

Dathlu Pen Blwydd Ieuan Gwynedd Jones Yn 90 Oed
Ysgol Undydd Ar Gymru Yn Oes Victoria
Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Sadwrn 19 Mehefin 2010 10am-4pm

E-bostiwch s.f.williams@swansea.ac.uk


Ar 1 Mawrth 2008, trefnodd Llafur digwyddiad yng Nghaerdydd i ystyried syniadau cynnar CyMAL ar y cynnig yn nogfen Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cymru'n Un, i 'sefydlu Casgliad o Hanes Pobol Cymru'.

Darllen yr adroddiad ar y digwyddiad a gynhaliwyd ar 1 Mawrth 2008.

 

 

 

 

 
 
Newydd! Gallwch nawr chwilio tudalennau cynnwys cyfnodolyn Llafur.
Chwilio tudalennau cynnwys y cyfnodolyn.
 

Os ydych chi am dderbyn newyddion am ddigwyddiadau Llafur trwy ebost, beth am ymuno â’n rhestr ebost?

I ymuno, e-bostiwch